Gwrandewch!

Y Delyn Deires





(Ffotos (c) Alan Martin, Mid-Wales Photographic, Penegoes)

Roedd y syniad o gael mwy nag un rhes o dannau ar delyn i hwyluso chwarae hapnodau cromatig, yn sicr yn adnabyddus yn Sbaen a’r Eidal yn ystod y Dadeni. Erbyn diwedd y cyfnod hwnnw, roedd yr Eidalwyr wedi datblygu’r cynllun o gael tair rhes lawn arni – dwy res mewn unseiniau diatonig gyda’r drydedd res rhyngddynt yn y canol yn cynnal yr hapnodau. Golygai hyn y gellid chwarae’r nodau cromatig gyda’r naill law neu’r llall.

Fe gydiodd y syniad, ac fe ledodd y Delyn Deires drwy Ewrop i ddod yn brif delyn cyfnod y Baroque. Cyfansoddodd rhai fel Monteverdi ac yn ddiweddarach Handel ar ei chyfer. Fe gyrhaeddodd Lundain erbyn canol yr 17eg ganrif, lle roedd telynorion Cymreig arfer mynd byth oddi ar i’w noddwyr traddodiadol ymysg y fonedd Gymreig droi eu bryd yno ar ôl Deddf Feddiannu y brenin Seisnig Harri VIII ym 1536. Buasent yn sicr yn ddigon awyddus i droi eu llaw at yr offerynnau a’r gerddoriaeth ffasiwn-newydd o’r Cyfandir.

Wrth iddynt ddod â hi adref i Gymru wedyn, fe gydiodd y Deires ymysg telynorion y Gogledd i ddechrau, ym Meirionnydd yn arbennig. Erbyn canol y 18ed ganrif, wedi iddi ddisgyn allan o ddefnydd yng ngweddill Ewrop, cafodd y Deires ei choroni fel telyn genedlaethol y Cymry, a’i hanes go iawn (naill ai o ddifri, neu jest yn gyfleus!) yn cael ei hanghofio.

Ond er gwaetha ei gwreiddiau yn yr Eidal, fe ymsefydlodd y Deires yn gadarn yng Nghymru, ac fe’i derbyniwyd ac yn wir fe’i magwyd fel offeryn Cymreig. Yn y diwedd, dan ddylanwad ein dawn greadigol genedlaethol, daeth y dull o’i chanu, ei repertoire, a’r dehongliad o’i cherddoriaeth yn rhywbeth gwirioneddol Gymreig, ac yn rhywbeth y gellid ei hadnabod felly.

O ganlyniad, teg yw dweud mai’r Delyn Deires yw’r unig wir delyn Gymreig. Erbyn hyn mae’n unigryw i Gymru fel traddodiad llafar di-dor ers dros dri cant o flynyddoedd, ac mae ei chân, a llais ‘pefriol’ ei thair rhes o dannau lawn mor unigryw â’r iaith Gymraeg ei hun.



Senedd yr ymrysonau – y ddeudu
O ddedwydd gydleisiau,
Anian i gyd yno’n gwau
Iaith enaid ar ei thannau.

Dewi Wyn o Eifion



Y Delyn Deires – Dyfyniadau

“Er bod siâp ddigon cyfarwydd i’r offeryn, mae ei gynllun sylfaenol a’r dull o’i ganu yn llwyr wahanol i’r offeryn cerddorfaol. Yn aml iawn wrth ganu cerddoriaeth fodern i’r delyn, bydd y telynor fel petai’n tap-ddawnsio’n wyllt wrth iddo weithio’r saith pedal â’i draed i newid hyd y tannau, a bydd rhaeadrau hir o glissandi (yr ydym yn eu cofio mor dda o ffilmiau’r Marx Bothers) yn nodwedd mor amlwg ohoni.

Mae’r Delyn Gymreig yn offeryn llawer mwynach, a’i thannau niferus yn caniatáu cynllun heb bedalau. Mae ei nodau tawel, hudolus bron, yn awgrymu fod yr offeryn modern ‘gwell’ wedi colli am byth ryw gyfrinach hanfodol …

Drwy gydol y cyngerdd, roeddwn yn rhyfeddu at ddull canu unigryw’r delyn yma –
roedd y chwarae deulais cymhleth a’r dechneg o adleisio’r alaw rhwng y ddwy law yn llwyr wahanol i unrhyw gerddoriaeth delyn yr wyf erioed wedi’i chlywed.”

Gregory Lewis – The Border Mail (Albury-Wodonga, Awstralia – 1995)

“Mae golwg osgeiddig y Delyn Deires Gymreig yn methu’n llwyr â pharatoi’r gwrandawr ar gyfer ei llais pwerus. Mae hi’n amlwg yn dalach na’r delyn Geltaidd neu’r delyn Wyddelig, ac mae ganddi lawer iawn mwy o dannau, oherwydd bod iddi dair rhes ohonynt, nid un yn unig fel sy’n fwy cyfarwydd i ni o’r delyn Wyddelig.

Mae’n canu lawn mor gain â hi, ond ar ben ysgafnder yr Wyddeles, mae modd canu gyda thonyddiaeth gyfoethocach ar y ddwy res o unseiniau, ac yna mae’r drydedd res yn y canol o hapnodau cromatig yn esgor ar bosibiliadau pellach. Lle mae’r delyn Wyddelig yn awgrymu delweddau o niwl a rhamant hudolus – pan nad yw’n chwarae jig neu rîl – mae’r repertoire pibddawnsiau ar y Deires Gymreig yn atseinio gydag nwyf dywyllach y Sipsiwn. Mae’n repertoire dawnsio lawn gymaint â repertoire y ffidil Gwyddelig neu Albanaidd, ond yn fwy awgrymog o droelli’n wyllt wrth y tân ar y rhos nag o droedio’n hwyliog yng ngolau cannwyll y gegin.”

Stephen Pedersen – The Mail-Star (Halifax, Nova Scotia, Canada 1996)


Administration