Gwrandewch!

Bywgraffiaeth

Mae Robin Huw Bowen yn cynrychioli gwir enaid traddodiad gwerin Cymru. Gyda sail gadarn ddyblyg ei ymchwil hir yn y maes, ynghyd â thechneg ddilys a ddysgodd gan ffynonellau byw, mae’n tynnu gwahanol linynnau o’r traddodiad at ei gilydd i roi mynegiant byw i gerddoriaeth Gymreig o’r newydd.

Yn aml iawn, bydd y meddylfryd cyfoes yn awgrymu bod gwarchod traddodiad yn ddim byd mwy na ‘byw yn y gorffennol’, ond yn lle jest cyflwyno hen greiriau llychlyd o silff yr amgueddfa, mae canu ysbrydoledig Robin yn sicrhau ei fod yn ailgynnau gwir enaid y gerddoriaeth a'i chyfleu i'r gwrandawyr fel peth byw. Er ei fod yn barod i wthio ffiniau cydnabyddedig y traddodiad, ac i’w estyn ei hun yn gerddorol, fydd Robin byth yn bradychu cywirdeb y traddodiad hwnnw. Mae ei ddehongliad a’i chwarae yn cael eu dyfnhau gan nerth ei bersonoliaeth ei hun a chan gryfder ei unigoliaeth sydd wedi’i wreiddio yn gadarn mewn canrifoedd o gerddori Cymreig. Mae’n dod â gwir sain a natur y traddodiad Cymreig i’w gynulleidfa, gan adlewyrchu aestheteg hŷn efallai, ond lawn mor fyw a lliwgar ag y buodd erioed.

Am dros chwarter canrif mae Robin wedi creu gyrfa iddo’i hun fel yr unig Delynor Teires proffesiynol llawn-amser, ac mae wedi cyflwyno’r Delyn Deires Gymreig a’i cherddoriaeth i filoedd led-led y byd. Mae wedi ymchwilio i gael hyd i lawer iawn o hen alawon ‘coll’, a’u cyhoeddi a’u recordio, ac mae ei ddylanwad ar y byd Gwerin Cymreig ac ar hanes y Delyn yng Nghymru yn un eang a phwysig.Yn ddiau, fe saif ymysg y ffigurau pwysicaf i godi o draddodiad Gwerin Cymru, ac nid yw’n syndod felly ei fod yn cael ei gydnabod fel prif Delynor Teires Cymreig heddiw.

Am ddyddiadau pwysig ym mywyd a gyrfa Robin, gweler y Llinell amseryddol



Administration